Nadezda Kakoli

Dechreuodd fy hoffter o beintio a'm brwdfrydedd dros liwiau a llinell yn ystod fy mhlentyndod yn Asia.

Rwy’n hoffi archwilio amrywiaeth o themâu a chyfryngau gan ddechrau gyda phwnc syml bob tro a’i ddatblygu gyda fy nehongliad fy hun gan greu darn o waith lliwgar a chyfoes.

Roeddwn yn ddigon ffodus i gael y cyfle i astudio celf ac mae gennyf radd yn y celfyddydau cain mewn peintiadau olew o Academi Celfyddydau Tsieina. Astudiais ddyfrlliw traddodiadol Tsieina fel fy ail bwnc sy’n dylanwadu ar fy ngwaith dyfrlliw a chyfryngau cymysg. Rwyf hefyd yn athro oedolion cymwys ac wedi dysgu yn ardal Swydd Gaerloyw. Rwy’n hapus i ddysgu ar unrhyw lefel ac mewn unrhyw gyfrwng yn Ôl anghenion a diddordeb unigol y dysgwr.

Cefais fy ysbrydoli gan brydferthwch lliw, amrywiaeth llinell a’r ffordd o fynegi pob math o bynciau. Rwy’n hoffi archwilio fy syniadau fy hun ar gynfas ac ar bapur gan ddefnyddio lliw olew, acrylig, dyfrlliw, pen inc, cyfrwng cymysg a dyfrlliw Tsieineaidd ar destun cyffredin iawn neu o’r cof. Rwy’n caru arbrofi â gwahanol ddulliau o waith gan ddefnyddio cyfryngau gwahanol a lliwiau cyferbyniol. Byddent yn creu delwedd gyfoes lachar a ffres yr olwg i’w roi ar eich muriau.

Fy ffantasïau diddiwedd a’m hoffter o luniadau a pheintio yw’r prif symbyliad sy’n gyrru fy ngwaith.

Useful Information

Nadezda Kakoli

Owner/Manager: Nadezda Kakoli

11 Patterson Way Monmouth Monmouthshire NP25 5BS United Kingdom
phone: 01600 716044 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Nadezda Kakoli Statistics: 11 click throughs, 230 views since start of 2024

© copyright 2024 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community