Mae Ralph ac Elke wedi bod yn trin coed ers dros 16 mlynedd - gwaith turnio a phyrograffeg yn bennaf. Maent yn cynhyrchu amrywiaeth eang o nwyddau o ansawdd uchel sydd wedi eu creu â llaw, syn unigryw o ran dyluniad, yn addurnol ac ymarferol, yn ddeniadol ir llygad, ond hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer bywyd bob dydd. Eu cynnyrch mwyaf poblogaidd yw stondin glustdlysau a modrwyau a chardiau pren wedi eu haddurno â phatrymau Celtaidd.
Dim ond coed Prydeinig o ffynonellau adnewyddadwy gaiff eu defnyddio gan Yew Turn, a dawr ysbrydoliaeth ar gyfer y siapau ar ffurfiau sydd iw gweld yn eu gwaith o hanes Celtaidd a chefn gwlad naturiol Cymru. Mae harddwch naturiol y pren yn rhan annatod o bob darn o waith.
Mae eu gwaith ar gael yn yr amrywiol sioeau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn, a bydd cyfle o bryd iw gilydd iw gweld yn arddangos eu crefft.
Ar gael:
The Court Cupboard, Llandeilo Bertholau
website link
Beacons Craft, Aberhonddu
website link
Useful Information
Owner/Manager: Ralph and Elke Curtis
News & Special Offers
Opening Times
Yew Turn Statistics: 8 click throughs, 88 views since start of 2025