Mae Maria yn defnyddio carreg o chwarel (delff) y teulu yn Sir Fynwy i greu dalwyr canhwyllau te a chanhwyllau cyffredin. Roedd y chwarel yn segur tan yn ddiweddar. Aeth Maria ai gŵr ati i adfer y delff er mwyn darparu cerrig ar gyfer gwaith adeiladu, ac erbyn hyn maen cynhyrchu carreg Hen Dywodfaen Coch Defonaidd o ansawdd rhagorol gyda gwawr hyfryd syn amrywio o wyrdd/llwyd i borffor.
Roedd harddwch naturiol ynghyd â siâp, lliw a gwead amrywiol y garreg wedi ysbrydoli Maria i greu rhywbeth a allai fod yn nodwedd arbennig mewn unrhyw gartref neu ardd, gan roi cyfle i bobl werthfawrogi harddwch y garreg. Mae hin creu amrywiaeth o ddalwyr canhwyllau te a chanhwyllau o bob maint, pob un wedi ei ddylunion briodol i adlewyrchu nodweddion naturiol y garreg. Maer canhwyllau te citronella yn hynod o boblogaidd i gadw pryfed draw, ac mae gallur garreg i wrthsefyll y tywydd yn fantais ychwanegol.
Useful Information
Owner/Manager: Maria Bayliss
News & Special Offers
Opening Times
Sir Fynwystone Statistics: 0 click throughs, 67 views since start of 2025