Julia Green

Rwyf wedi byw yn Sir Fynwy ers nifer o flynyddoedd.

Rwyf wedi byw yn Sir Fynwy ers nifer o flynyddoedd. Yn ystod yr amser hwn mae cefn gwlad wedi bod yn ysbrydoliaeth gyson i mi. Bydd y syniadau cyntaf ar gyfer fy ngemwaith yn dod o bethau naturiol, lleol y byddaf yn eu casglu, tynnu ffotograffau ohonynt a’u lluniadu. Mae fy ngwaith wedi cael ei ysbrydoli gan ddarn o risgl, carreg â gorchudd o gen neu ddeilen wedi ei bwyta gan bryfed. Mae’r gemwaith yn ceisio dangos cydbwysedd rhwng ffurfiau syml a phatrymau a gweadau cymhleth a chyfoethog gan osod arian ochr yn ochr ag alwminiwm wedi ei anodeiddio sydd wedi ei brintio a’i liwio. Mae alwminiwm yn gallu cynhyrchu lliwiau hynod gyfoethog gyda lliw ac arwyneb y metel yn newid drwy gydol y broses brintio. Ni ellir rhagweld y darn gorffenedig ac mae’r amrywiadau cynnil sy’n digwydd yn naturiol yn golygu bod pob darn yn unigryw.

Ar gael:

Bowle and Hulbert, Y Gelli,

Parkfields gallery, Ross-on-Wye; FfÔn: 01989 565266

Great Atlantic Art Gallery: FfÔn: 01600 714527

Ar gael gydol y flwyddyn

Useful Information

Julia Green

Owner/Manager: Julia Green

The Forge Hendre Monmouthshire NP25 5HG United Kingdom
phone: 01600 713586 fax:

News & Special Offers

Opening Times

Julia Green Statistics: 0 click throughs, 274 views since start of 2024

© copyright 2024 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community