Arlunydd syn frwd dros fywyd gwyllt yw Tracey-Anne Sitch, ac mae wedi bod yn arlunio gwrthrychau o fyd natur ar hyd ei hoes.
Yn wreiddiol o Lundain, graddiodd mewn sŵoleg ym Mhrifysgol Nottingham yn yr 1980au, a bun gweithio wedyn fel arlunydd a darlunydd masnachol, ac arlunydd peintio a llunio llawrydd yn y diwydiant animeiddio. Yn yr un cyfnod, roedd yn parhau i arddangos ei lluniau yn Llundain a Hampshire.
Symudodd Tracey-Anne i Gymru gydai gŵr ai theulu ym 1999, a chymryd seibiant gyrfa i fagu dau fab tan iddynt gychwyn yn yr ysgol. Wedyn, ailgydiodd yn y paentio, a chael ei hysbrydoli fwyfwy gan fywyd gwyllt a thirweddau hardd Dyffryn Wysg. Ar hyn o bryd mae ei gwaith iw weld mewn nifer o orielau lleol.
Ar gael:
website link
Gwent Wildlife HQ, Llanddingad
Nantiago, Y Fenni
Ar gael: gydol y flwyddyn
Useful Information
Owner/Manager: Tracey-Anne Sitch
News & Special Offers
Opening Times
Tracey-Anne Sitch Statistics: 0 click throughs, 81 views since start of 2025