Yn wreiddiol o Hong Kong, mae Kwong Kuen Shan, arlunydd syn peintio â brws yn yr arddull Tsieineaidd wedi ymgartrefu yn Sir Fynwy ers blynyddoedd. Mae Kuen Shan yn peintio ac arddangos, yn ogystal ag addysgu, ac yn ddiweddar dechreuodd ysgrifennu.
I gychwyn, arferai gwaith celf Kuen Shan ganolbwyntio ar destunau Tsieineaidd traddodiadol, ond ers symud i Sir Fynwy maer hyn sydd oi chwmpas yma yng Nghymru yn ei hysbrydoli. Erbyn hyn, mae hin defnyddio technegau Tsieineaidd wrth bortreadu testunau Cymreig, gan beintio popeth o lannau mÔr i nentydd, creigiau i gestyll. Maen arddangos eu gwaith yn helaeth.
Mae Kuen Shan wedi cyhoeddi dau lyfr yn y DU, The Cat and The Tao a The Philosopher Cat, gan gyfunoi phaentiadau gyda doethineb y Tsieineaid. Cyhoeddwyd y llyfrau yn Unol Daleithiau America hefyd, ac mewn deg iaith dramor.
Mae ei llyfr diweddaraf yn ymwneud ag athroniaeth Tsieineaidd, ac yn cynnwys ei darluniau ei hun.
Ar gael:
website link
Useful Information
Owner/Manager: Kwong Kuen Shan
News & Special Offers
Opening Times
Kwong Kuen Shan Statistics: 1 click throughs, 64 views since start of 2025