Mae Gwnaed yn Sir Fynwy yn dathlu doniau creadigol crefftwyr lleol, sgiliau cynhyrchwyr lleol a'r ffordd y maent yn cadwr traddodiadau a luniodd y dirwedd yn fyw. Beth am fwrw golwg ar yr amrywiol artistiaid, crefftwyr, cynhyrchwyr a siopau?
Lansiwyd menter Gwnaed yn Sir Fynwy, syn rhan o raglen adventa i gefnogi datblygiad gwledig ac i ychwanegu gwerth at gynhyrchion lleol, mewn derbyniad i arddangos cynhyrchion ym mis Tachwedd 2005.
Mae Gwnaed yn sir Fynwy yn rhoi sylw i eitemau a wnaed yn lleol, o adnoddau cynaliadwy mewn ffordd syn gyfrifol o ran yr amgylchedd, lle bo modd.
Yn dathlu.... doniau creadigol crefftwyr lleol, sgiliau cynhyrchwyr lleol a'u cyfraniad at gadw traddodiadau sydd wedi llunio'r dirwedd yn fyw.
Yn hyrwyddo.... celf, crefftau a chynnyrch o ansawdd uchel.
Yn cefnogi..... yr economi wledig ac yn gwarchod yr amgylchedd drwy annog trigolion ac ymwelwyr i 'brynu'n lleol'.
Sir Fynwy ywr unig sir sydd wedi ennill gwobr Cyrchfan Twristiaeth Fwyd yng Ngwobrau Cymru: Y Gwir Flas. Am ragor o wybodaeth am wobrau Bwyd a Diod Cymru: Y Gwir Flas gweler website link
Useful Information
siop-un-stop sy'n dangos cyfoeth o gynnyrch lleol blasus, anrhegion hardd wedi'u gwneud â llaw, gemwaith chwaethus a chelf ysbrydoledig a gynhyrchwyd yn y sir, gyda manylion ynglŷn â ble i'w prynu.
Gwnaed yn Sir Fynwy Statistics: 0 click throughs, 47 views since start of 2025