Seintiau, Sgandal a Dreigiau Go Iawn!

Gadewch y Fenni ar yr A465 am Henffordd – edrychwch am yr arwydd twristiaeth brown i Briordy Llanddewi Nant Hodni a throwch i’r chwith drwy bentref Llanfihangel Crucornau. Trowch i’r chwith eto wrth Dafarn Ysgyryd (Skirrid Mountain Inn). (y Dafarn hynaf yng Nghymru, 13G a lleoliad crogi o leiaf 180 o bobl!)

Nawr dechreuwn ein taith i fyny’r Cwm. Yn yr Oesoedd Canol roedd yr ardal hon yn goediog a chorsiog, a’r unig ffordd i mewn fuasai dros y Mynydd ar y naill ochr neu’r llall. Wrth i’r ffordd ddechrau culhau cymerwch y lÔn i’r dde yn union wrth y Queens Head gan ddilyn arwydd Cwm-iou. (Ardal ferlota yw hon, fel y cwm i gyd; cofiwch fynd yn araf heibio i unrhyw res o ferlotwyr!) Rydych chi ar lÔn gul erbyn hyn ond, coeliwch fi, rydych chi ar eich ffordd i Eglwys Sant Martin a hefyd stiwdio’r artist ac awdur Proper Dragon Tales – Caroline Downey. Ymlaen â chi at yr eglwys (nid eich llygaid chi sy’n gam – does dim wal na chornel syth yn unman!). Wrth adael yr eglwys trowch i’r dde a dilyn y lÔn i lawr y rhiw i ailymuno â ffordd y Cwm. Trowch i’r dde ac yn eich blaen i Landdewi Nant Hodni.

Trowch i’r dde yn y pentref, 100 metr a dyma chi! Ar y dde mae eglwys fechan Dewi Sant, sy’n dyddio o’r 6G ac yn rhoi ei enw i’r pentref, ac ar y chwith, adfail mawreddog Priordy Llanddewi Nant Hodni o’r 12G. Parciwch eich car (am ddim) a mwynhewch bicnic yma (toiledau ar gael). Crwydrwch adfeilion y Priordy (am ddim). (Doedd bywyd ddim bob amser mor braf. Oherwydd unigedd a gorfod cerdded dros y mynydd am bysgod a chwrw gadawodd y mynachod Landdewi yn y 13G!) Yn yr eglwys fechan gallwch ryfeddu at wytnwch y trigolion yn y 19G - roedd bywyd yn galed ond yn syml. Mwynhewch y ffenestr wydr lliw hardd ar y chwith wrth ichi fynd i mewn i’r eglwys.

Ewch ymlaen i fyny’r Cwm i Gapel-y-Ffin. Saif eglwys fechan arall, Eglwys y Santes Fair, ynghanol coed yw hynafol ac i fyny’r lÔn i’r chwith mae mynachdy’r Tad Ignatius a geisiodd ailsefydlu’r mudiad Benedictaidd yng Nghymru. Ym 1924 daeth Eric Gill, cerflunydd a theipograffydd yma gyda’i deulu i fyw bywyd gwarthus! (manylion rhy gywilyddus i’w datgelu, ddarllenydd mwyn!)

Gyrrwch yn eich blaen – mae’r coed yn diflannu a dyma ni ar weundir agored. Mae’r ffordd yn cyrraedd crib y cwm – Bwlch yr Efengyl. (Parciwch yn ofalus, mae’r olygfa’n syfrdanol) – Mae tarren y Mynydd Du ar y chwith ichi, Bannau Brycheiniog yn y pellter ar y chwith, gleiderau a barcutwyr uwch eich pen! Mae’r Gelli Gandryll ac Afon Gwy islaw. Gyrrwch yn ofalus i lawr y rhiw i’r Gelli. Dilynwch y B4350/A438 i Fronllys, wedyn yr A479 i gyfeiriad Y FENNI drwy Dalgarth.

Gwefannau

www.skirridmountaininn.co.uk
www.breconbeacons.org/visit-us/things-to-do-and-see/special-places-to-visit/llanthony-valley
www.properdragontales.co.uk
www.travelbreconbeacons.info am Wibfws Clawdd Offa (cylchdaith Cymoedd Llanddewi Nant Hodni /Longtown, o’r Gelli i’r Gelli – dydd Sul yn unig, Mai i Fedi)

Useful Information

Seintiau, Sgandal a Dreigiau Go Iawn! Statistics: 0 click throughs, 59 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community