Diwrnod 1: Cestyll, cychod camlas a'r barcud

Dechreuwch eich diwrnod yn nhref farchnad hardd Crucywel ar Afon Wysg. Parciwch yn y prif faes parcio a galwch heibio’r Ganolfan Groeso leol am daflen sy’n awgrymu taith gerdded drwy’r dref; mae oriel gelf yn y ganolfan hefyd ar y llawr cyntaf, lle gallwch weld gweithiau gwreiddiol gan arlunwyr a chrefftwyr lleol. Cewch gyfle i edmygu adfeilion y castell canoloesol, mynd am dro i lawr at y bont o’r 17eg a’r 18fed ganrif dros Afon Wysg (nodwedd anarferol yw bod gan y bont 12 bwa ar un ochr a 13 ar y llall!), ac wedyn crwydro’r siopau neu am goffi yn y Stryd Fawr. Os dymunwch, gallwch brynu bwydydd arbennig lleol yn y siopau bwyd yma ar gyfer picnic amser cinio.

Dilynwch yr A40 i’r gorllewin allan o Grucywel tuag at Aberhonddu, wedyn rhyw ddwy filltir allan o’r dref trowch i’r dde i’r A479 sy’n arwain i Lanfair ym Muallt. Dair milltir ar hyd y ffordd hon saif castell gwych Tretŵr a godwyd yn wreiddiol gan y Normaniaid i reoli’r ffordd rhwng Afon Wysg a dyffryn Gwy. Mae’r tŵr o’r 13eg ganrif yn dal i dra-arglwyddiaethu dros bentref Tretŵr, er y cymerwyd ei le fel lle i fyw ynddo gan y maenordy a adeiladwyd gerllaw yn y 15fed ganrif. Mae’r castell yn cael ei adfer ar hyn o bryd, a dylai ailagor yng ngwanwyn 2010.

I ddychwelyd i’r A40, cymerwch y lÔn fach sy’n arwain tua’r de oddi wrth y castell, gan groesi pont fechan. Trowch i’r dde i’r A40. Ar Ôl mynd trwy bentref Bwlch, fe ewch drwy olygfeydd godidog, a gallwch weld prif gopaon y Bannau ar y chwith. Oddi yma, gallwch naill ai ddal i fynd ar hyd yr A40 i Aberhonddu, lle mae digon o ddewis o lefydd i gael cinio, neu droi oddi ar y ffordd fawr am Dalybont-ar-Wysg am ginio picnic ar lan y gamlas cyn mynd am dro ar hyd y llwybr tynnu.

Cwblhawyd camlas Mynwy ac Aberhonddu yn 1812. Fe’i hadeiladwyd i gysylltu Aberhonddu â Chasnewydd ac aber Hafren ac fe’i defnyddid yn ei dydd i gludo glo a chalchfaen. Edwinodd y fasnach pan adeiladwyd y rheilffyrdd yng nghanol y 19eg ganrif, ond mae’r gamlas yn dal yn brysur yn yr haf gyda badau culion (ar gael i’w llogi mewn ambell le, yn cynnwys y Fenni), yn ogystal â bod yn boblogaidd gyda cherddwyr ac yn noddfa i fywyd gwyllt (gwyliwch am las y dorlan!). O Dalybont dilynwch y B4558 i Aberhonddu.

Arhosiad olaf y dydd yw Aberhonddu. Gydag eglwys gadeiriol, castell ac enghreifftiau anhygoel o bensaernïaeth Sioraidd, mae’r dref farchnad dlos hon yn llawn hanes ac yn ganolbwynt y Parc Cenedlaethol. Crwydrwch y siopau, ewch i weld yr eglwys gadeiriol (ar y B4520 ar gyrion y dref) neu cymerwch gwch ar y gamlas o’r basn ger Theatr Brycheiniog (ychydig oddi ar yr A40 wrth ichi ddod i mewn i Aberhonddu).

Daliwch i fynd tua’r gorllewin ar hyd yr A40 i Lanymddyfri.

www.dragonfly-cruises.co.uk
www.beaconparkboats.com/day-boat-hire.html
www.visitbrecon.com
www.breconbeaconstourism.co.uk/marketarea/Llandovery_Llandeilo/index.html
http://www.carregcennencastle.com
http://www.visit.carmarthenshire.gov.uk
http://www.breconbeacons.org/geopark/enjoying/llyn-y-fan-fach

Useful Information

Diwrnod 1: Cestyll, cychod camlas a'r barcud Statistics: 0 click throughs, 83 views since start of 2025

© copyright 2025 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community