Monmouthshire Honey

Mae fy ngwraig a minnau wedi bod yn cadw gwenyn ers 15 mlynedd.

Mae fy ngwraig a minnau wedi bod yn cadw gwenyn ers 15 mlynedd. Erbyn hyn, mae’n fater teuluol ac mae ein merched hefyd yn helpu ac yn dechrau dysgu’r grefft. Mae ein cychod gwenyn wedi eu lleoli ar hyd Dyffryn Wysg, mewn gwenynfeydd parhaol.

Rydym yn casglu’r holl fêl yr ydym yn ei werthu o’r cychod gwenyn hyn. Mae rhai o’r blodau y mae’r gwenyn hyn yn ymweld â nhw yn cynnwys dant y llew, coed ffrwythau, rêp hadau olew, mwyar duon, meillion, yr helyglys hardd a’r ffromlys chwarrennog, i enwi ond ychydig. Heb anghofio’r blodau sydd i’w gweld mewn gerddi lleol. Gwir flas ar Sir Fynwy.

Fe fydd blas y mêl, a’i arogl, yn amrywio o dymor i dymor, gan ddibynnu ar y porfwyd sydd ar gael yn lleol.

Yn ddiweddar, mae gwenyn wedi bod yn cael amser anodd, ac un peth y gall pobl ei wneud i helpu yw cefnogi ceidwaid gwenyn lleol, trwy brynu mêl lleol. Mae unrhyw farchnad cynnyrch neu farchnad ffermwyr yn lle da i gael hyd i fêl lleol. Meddyliwch am y milltiroedd bwyd y buasech chi’n eu harbed hefyd. Er enghraifft, pan fyddwch yn prynu mêl o Seland Newydd mae wedi teithio tua 11,000 o filltiroedd. Heb os, lleol sydd orau!

Useful Information

Monmouthshire Honey

Owner/Manager: David and Jane Johns

8 Penybont Abergavenny Monmouthshire NP7 9RA Wales
phone: 01873 832232 fax:

News & Special Offers

Monmouthshire Honey serves

Opening Times

Monmouthshire Honey Statistics: 0 click throughs, 260 views since start of 2024

© copyright 2024 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community