Castell Dolwyddelan

Click here for English version of this page website link

Castell Dolwyddelan

Cestyll a mynyddoedd. Dolwyddelan ac Eryri. Cymheiriaid perffaith. Mae gwella ar waith natur yn haws dweud na gwneud ond mae’r castell hardd hwn a’i gartref creigiog yn cydblethu’n wych. Mae’r diolch am hynny i Dywysog Gwynedd yng Ngogledd Cymru a llywodraethwr y rhan fwyaf o Gymru, Llywelyn Fawr.

Roedd Llywelyn ab Iorwerth (1173-1240), fel y’i gelwid hefyd, yn adnabod ei filltir sgwâr yn well nag unrhyw un. Roedd Dolwyddelan, ynghyd â Dolbadarn a Phrysor, yn ffurfio casgliad o gadarnleoedd allweddol yn y mynyddoedd a oedd yn strategol bwysig i lywodraethwr Cymru. Ar Ôl cyfnod Llywelyn, trosglwyddwyd y castell i’w wyr Llywelyn ap Gruffudd. Llwyddodd yntau i atal lluoedd Edward am gyfnod.

Yn ddiweddarach, ychwanegodd Llywelyn lenfur sy’n amgylchynu’r iard at y gorthwr mawreddog. Aeth y Saeson ymlaen i ail-atgyfnerthu’r castell ac ychwanegwyd twr hirsgwar arall. Ni fu mor llwyddiannus â’r cyntaf. Efallai fod cyfiawnder wedi’r cwbl olion yn unig a welir o’r twr hwn heddiw.

Gydag ychydig gymorth pobl Oes Fictoria i’w hadfer, mae’r gaer hon o’r 13eg ganrif bellach yn gampwaith.

Useful Information

Castell Dolwyddelan
Conwy LL46 2YH Wales
phone: 01690 750366 fax:

News & Special Offers

Gofynnwch am fynediad am ddim os ydych yn byw yng Nghymru ac yn 60 oed neu'n hyn neu'n 16 oed neu'n iau.

Entrance Charge

Opening Times

Mynediad olaf 30 munud cyn cau. 1 Ebr-30 Medi 09 Llun-Sad 10am-5pm Sul 11.30am-4pm 1 Hyd 09-31 Maw 10 Llun-Sad 10am-4pm Sul 11.30am-4pm Ar gau 24, 25, 26 Rhag a 1 Ion Ar rai adegau gall y safle fod ar agor a heb ei staffio ac ni chodir tâl mynediad 10am-4pm.

Castell Dolwyddelan Statistics: 48 click throughs, 1883 views since start of 2024

© copyright 2024 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community