Castell Caerffili

Castell Caerffili

Fel y caws enwog, bu cysylltiad annatod rhwng y castell a Chaerffili ers tro byd. Mae’n dominyddu. Yn nodwedd amlwg. Cawr sy’n cysgu, yn barod am yr alwad i’r gad. Mae’n deilwng o gael ei barchu.

Syniad Gilbert de Clare, gwr bonheddig pengoch o ddisgyniad Normaniadd a deiladodd y Castell Coch gwreiddiol ar ochr arall mynydd Caerffili, oedd y castell enfawr hwn o garreg, a amgylchynir gan gyfres o ffosydd ac ynysoedd bach.

Bu rhyfela rhwng Gilbert de Clare a Llywelyn ap Gruffydd a rhwystrwyd sawl ymgais gynnar gan Gilbert i adeiladu castell gan dywysog Cymru. Yn y pen draw, Gilbert a enillodd y frwydr a chododd gadarnle enfawr gan ddefnyddio’r system amddiffyn ‘muriau o fewn muriau’ consentrig.

Sicrhaodd hefyd fod ystafelloedd mawr a chyfforddus i fyw ynddynt. Fodd bynnag, pan lwyddodd Edward I i dewi bygythiad Llywelyn, newidiodd pwrpas y cadarnle enfawr hwn. Dirywiodd cyflwr y castell tan ddiwedd y 19eg ganrif pan ddechreuodd trydydd ardalydd Bute ar waith cadwraeth. Mae dyled de Cymru yn fawr i deulu Bute!

Useful Information

Castell Caerffili
Caerphilly Cardiff CF83 1JD Wales
phone: 02920 883143 fax:

News & Special Offers

Gofynnwch am fynediad am ddim os ydych yn byw yng Nghymru ac yn 60 oed neu'n hyn neu'n 16 oed neu'n iau.

Entrance Charge

Opening Times

Mynediad olaf 30 munud cyn cau. 1 Ebr-31 Hyd 09 9am-5pm yn ddyddiol 1 Tach 09-31 Maw 10 Llun-Sad 9.30am-4pm, Sul 11am-4pm Ar gau 24, 25, 26 Rhag, 1 Ion

Castell Caerffili Statistics: 13 click throughs, 282 views since start of 2024

© copyright 2024 Your Tourism Community :: Design by Yvonne Tsang & Kate Watkiss. Powered by Your Tourism Community